Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dyddiad: 16 Hydref 2014

Teitl: Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2015-16

 

Diben

Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog ar 28 Gorffennaf yn eu gwahodd i roi tystiolaeth ar gynigion eu Cyllideb Ddrafft ac yn gofyn iddynt gyflwyno papur mewn perthynas â’r Gyllideb Ddrafft.

 

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd y Gyllideb Ddrafft ar 30 Medi 2014. Mae’r papur hwn yn rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch cynigion cyllidebol y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2015-16.

 

Trosolwg o’r Gyllideb

 

2015-16

Refeniw

£m

Llinell Sylfaen DEL adeg Cyllideb Derfynol 2013

6168.6

Dyraniad y Prif Grŵp Gwariant

225.0

Trosglwyddiadau rhwng Prif Grwpiau Gwariant

(5.8)

DEL diwygiedig adeg Cyllideb Ddrafft 2014

6387.8

Cyfalaf

 

Llinell Sylfaen DEL adeg Cyllideb Derfynol 2013

234.5

Dim newid

 

DEL diwygiedig adeg Cyllideb Ddrafft 2014

234.5

Cyfanswm y Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

6622.3

Nid yw’r tabl yn cynnwys Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME), sydd y tu allan i Derfyn Gwariant Adrannol (DEL) Llywodraeth Cymru.

 

Newidiadau dros y Flwyddyn Ariannol Gyfredol

Mae’r newidiadau arfaethedig ar gyfer 2015-16 o gymharu â’r flwyddyn ariannol gyfredol a’r cynlluniau dangosol a gyhoeddwyd adeg y Gyllideb Derfynol ym mis Rhagfyr 2013 fel a ganlyn:

                       

 

2014-15 adeg Cyllideb Atodol mis Mehefin  2014

Cynlluniau Dangosol

2015-16

Cyllideb Arfaethedig 2015-16

Newid o’r Gyllideb Atodol

Newidiadau o’r Gyllideb Ddangosol

Refeniw

6096.6

6168.6

6387.8

291.2

219.2

Cyfalaf

300.0

234.5

234.5

(65.5)

-

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm

6396.6

6403.1

6622.3

225.7

219.2

 

Mae newidiadau o gyllideb 2014-15 fel y’u cyhoeddwyd yng Nghyllideb Atodol mis Mehefin 2014 wedi’u crynhoi isod:

 

Refeniw: Cynnydd o £291.2 miliwn

·       £60.000 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn unol â blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi’r GIG yng Nghymru – cyhoeddwyd yng Nghyllideb Derfynol Rhagfyr 2013

·       £(10.000) miliwn o ostyngiad mewn perthynas ag ariannu orthopedeg nad yw’n rheolaidd i Fwrdd Iechyd Hywel Dda

·       £(4.998) miliwn ar gyfer Cynlluniau Buddsoddi i Arbed

·       £27.000 miliwn mewn perthynas â’r cyllid o’r Gronfa Byw’n Annibynnol a ddyrennir i Wasanaethau Cymdeithasol

·       £ 0.490 miliwn o’r MEG Llywodraeth Leol a Chymunedau mewn perthynas ag ariannu Diogelwch Porthiant sy’n trosglwyddo o setliad y Grant Cynnal Refeniw

·       £0.335 miliwn o’r MEG Gwasanaethau Canolog ar gyfer Cynlluniau Buddsoddi i Arbed

·       £(4.577) miliwn i’r MEG Llywodraeth Leol a Chymunedau mewn perthynas â Grant Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd i setliad y Grant Cynnal Refeniw

 

Cyfalaf: Gostyngiad o £ (65.500) miliwn o ganlyniad i ariannu nad yw’n rheolaidd a ddyrannwyd yn 2014-15:

·         £(2.0) miliwn o gyllid ar gyfer diagnosteg a gofal triniaethau dydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

 

Newidiadau o Gynlluniau Cyllideb Terfynol 2013

 

Refeniw – Cynnydd o £219.2 miliwn

·       £225.000 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn unol â blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi’r GIG yng Nghymru

·       £ 0.490 miliwn o’r MEG Llywodraeth Leol a Chymunedau mewn perthynas â chyllid Diogelwch Porthiant sy’n trosglwyddo o setliad y Grant Cynnal Refeniw

·       £0.335 miliwn o’r MEG Gwasanaethau Canolog ar gyfer Cynlluniau Buddsoddi i Arbed

·       £(4.577) miliwn i’r MEG Llywodraeth Leol a Chymunedau mewn perthynas â Grant Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd i setliad y Grant Cynnal Refeniw

·       £(1.166) miliwn i’r MEG Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu mewn perthynas â throsglwyddo Academi Wales

 

Cyfalaf – Dim newid

 

Mae manylion yr holl drosglwyddiadau yn Atodiad A y papur hwn gyda dadansoddiad i lefel Llinell Wariant yn y Gyllideb yn Atodiad B.

 

Sut y lluniwyd Cynigion y Gyllideb

Y newid cyllidebol mwyaf arwyddocaol i’r MEG AIGC ar gyfer 2015-16 yw cynnwys y £225 miliwn o gyllid ychwanegol yng Ngham Gweithredu ‘Cyflenwi Gwasanaethau Craidd y GIG’. Mae’r sail resymegol dros y cyllid ychwanegol hwn wedi’i gynnwys ym mhrif ddogfennau’r gyllideb a gyhoeddwyd adeg cyhoeddi’r gyllideb ei hun ar 30 Medi.

 

Mae’r brif dystiolaeth ategol ar gael mewn adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield yn ddiweddar. Un o brif gasgliadau a negeseuon yr adroddiad yw y bydd y GIG yn parhau i fod yn fforddiadwy yn y dyfodol, cyn belled bod y GIG yn rhannu yn y twf mewn termau real a ragwelir yn economi y DU ac yn gwneud yr arbedion effeithlonrwydd a chynhyrchiant a nodwyd fel rhai posibl i’w cyflawni gan Nuffield.

 

Er y bydd y cyllid ychwanegol yn helpu’r GIG i barhau i ddarparu gwasanaethau diogel o safon uchel, bydd angen iddo barhau i ddangos dulliau newydd arloesol o ddarparu gofal iechyd, gan ganolbwyntio mwy ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Bydd y datblygiadau hyn yn cael eu seilio ar egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus; dull a fydd yn ein helpu i gyflawni dau amcan – canlyniadau gwell i gleifion a sicrhau gwasanaeth iechyd cynaliadwy i bawb o bobl Cymru ymhell i’r dyfodol.

 

Er mwyn helpu gyda gwaith craffu’r Pwyllgor ac i sicrhau gwell dealltwriaeth o sut mae’r GIG yn gwario ei ddyraniad o gyllid o fewn llinell weithredu ‘Cyflenwi Gwasanaethau Craidd y GIG’, mae’r adran nesaf yn rhoi mwy o wybodaeth am drefniadau cyllido’r Byrddau Iechyd Lleol.

 

Trefniadau cyllido Byrddau Iechyd Lleol

Yn nhablau Llinellau Gwariant yn y Gyllideb yn Atodiad B mae llinell weithredu Cyflenwi Gwasanaethau Craidd y GIG yn dangos cyllideb o £5.6 biliwn ar gyfer 2015-16. Ac eithrio ychydig o fân addasiadau, dyma’r brif gyllideb ddyrannu refeniw a roddir i’r Byrddau Iechyd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Mae’r dyraniad yn darparu cyllid ar gyfer:

 

·         Gwasanaeth Ysbytai ac Iechyd Cymunedol (HCHS) a dyraniad disgresiynol y refeniw presgripsiynau

·         Gwasanaethau HCHS sy’n cael eu hamddiffyn a’u clustnodi

·         Dyraniad y Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol

·         Dyraniad y Contract Fferylliaeth Gymunedol

·         Dyraniad y Contract Deintyddol

Ni chafwyd penderfyniad terfynol ar ddyraniad y gyllideb 2015-16 ddrafft rhwng y gwahanol ffrydiau cyllido eto. Fodd bynnag, er mwyn rhoi syniad i’r Pwyllgor am ddosbarthiad y gyllideb, cyflwynir y tabl isod yn seiliedig ar ddyraniad rheolaidd 2014-15.

 

Dyraniadau Refeniw Byrddau Iechyd Dangosol ar gyfer 2015-16

 

Bwrdd Iechyd

Dyraniad Disgresiynol a Phresgripsiynau

Dyraniad wedi’i glustnodi

Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol

Contract Fferylliaeth

Contract Deintyddol

Cyfanswm

 

£m

£m

£m

£m

£m

£m

ABM

  647.4

158.4

  71.7

  28.4

  26.3

   932.2

AB

  729.9

129.5

  82.4

  30.6

  26.4

   998.8

BC

  870.1

183.4

111.6

  32.5

  26.8

1,224.4

CaF

  529.2

110.0

  62.2

  21.6

  23.6

   746.6

CT

  391.4

  81.7

  43.9

  18.0

  11.2

   546.2

H Dda

  463.3

110.6

  58.7

  20.3

  16.8

   669.7

Powys

  159.2

  37.8

  30.0

    4.6

    5.5

   237.1

Cyfanswm

3,790.5

811.4

460.5

156.0

136.6

5,355.0

 

Nid yw’r tabl uchod yn cynnwys y cyllid ychwanegol o £225 miliwn a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft hon ar gyfer 2015-16. Bydd y rhan fwyaf o’r cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i Fyrddau Iechyd Lleol yn unol â’u cyfran deg o’r cyllid yn ôl yr hyn a nodir gan Fformiwla Townsend, a chan gyfeirio at y cynlluniau tymor canolig integredig a ddatblygwyd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Bydd yr union ddyraniad i bob Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei benderfynu yn dilyn cwblhau’r gwaith i ddiweddaru’r fformiwla ddyrannu bresennol, ar sail y tueddiadau diweddaraf yn y boblogaeth, a data sy’n seiliedig ar anghenion. Caiff hyn ei benderfynu cyn dosbarthu’r llythyrau dyrannu ffurfiol a fydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2015.

 

Yn ogystal, o fewn y Cam Gweithredu ‘Cyflawni Gwasanaethau Craidd y GIG’, mae rhai elfennau o gyllid a roddir i Fyrddau Iechyd yn ystod y flwyddyn, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol / meini prawf y cytunwyd arnynt yn gallu amrywio o flwyddyn i flwyddyn felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn y symiau o gyllid rheolaidd uchod. Enghreifftiau o wariant o’r fath yw:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dyraniad disgresiynol Byrddau Iechyd Lleol

Isod, dangosir dadansoddiad hanesyddol lefel uchel, fesul categori costau, o’r rhan fwyaf o’r gwariant o fewn dyraniad disgresiynol y BILl a ddangosir uchod, a gymerwyd o flwyddyn ariannol 2013-14.

 

DADANSODDIAD BILl YN ÔL MATH 2013-14

 

REFENIW – GWARIANT CYFLOGAU

£m

£m

CYFANSWM CYFLOGAU A THÂL STAFF Y GIG

2704.0

CYFANSWM CYFLOGAU A THÂL STAFF HEBLAW’R GIG

55.2

Cydnabyddiaeth ariannol y Cadeirydd a’r aelodau anweithredol

1.8

CYFANSWM GWARIANT REFENIW AR GYFLOGAU A THÂL

 

2761.0

 

 

REFENIW – GWARIANT NAD YW’N YMWNEUD Â CHYFLOGAU

 

Cyfanswm cyflenwadau clinigol

503.2

 

Cyfanswm cyflenwadau a gwasanaethau cyffredinol

47.9

 

Cyfanswm gwariant y sefydliad (teithio, cynhaliaeth, argraffu, nwyddau swyddfa ac ati)

74.6

 

Cyfanswm eiddo a chyfarpar sefydlog

123.0

 

Cyfanswm dibrisiant/lleihad a gwrthdroadau yng ngwerth asedau sefydlog

174.7

 

Cyfanswm staffio ymgynghoriaeth allanol ac ymgynghori

7.5

 

Cyfanswm amrywiol

64.0

 

CYFANSWM GWARIANT REFENIW NAD YW’N YMWNEUD Â CHYFLOGAU

 

995.1

 

 

Crynodeb o Wariant Refeniw – BILl 2013-14

 

3756.0

 

 

 

 

 

Dyraniad wedi’i Glustnodi

Y prif elfennau yn y dyraniad cyllid wedi’i glustnodi yw £529 miliwn ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl, £139 miliwn ar gyfer costau dibrisiant a £134 miliwn ar gyfer Gwasanaethau Anableddau Dysgu/Arennol.

 

Gwariant yn ôl Categori Cyllideb Rhaglenni

Gellir dangos dadansoddiad pellach o wariant hanesyddol yn ôl categori Cyllideb Rhaglenni. Caiff y wybodaeth hon ei darparu bob blwyddyn ond bydd ond ar gael tua 8 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol. O ganlyniad, daw’r wybodaeth a nodir isod o wariant blwyddyn ariannol 2012-13.

 

Y categorïau cyflwr iechyd canlynol sydd i gyfrif am dros 90% o gyfanswm dyraniad Cam Gweithredu ‘Cyflenwi Gwasanaethau Craidd y GIG’.

 

 

 


 

Mae’r siart uchod yn dangos prif feysydd gwariant y GIG yng Nghymru. Cymerwyd y wybodaeth hon o’r ffurflenni cyllideb rhaglenni ar gyfer 2012-13 ac mae’n cwmpasu oddeutu 92% o wariant y flwyddyn honno (tua £5 biliwn). DS Nid yw’r wybodaeth ar gyfer cyllideb rhaglenni 2013-14 ar gael eto.

*Mae’r categorïau gwariant a nodir uchod yn seiliedig ar Ddosbarthiad Clefydau Rhyngwladol Sefydliad Iechyd y Byd


Meysydd Diddordeb fel y nodwyd yn y Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor:

 

Ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu

Mae cynnydd yn erbyn holl ymrwymiadau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol y Rhaglen Lywodraethu yn cael ei fonitro’n rheolaidd i sicrhau eu bod ar y trywydd iawn i gael eu cyflawni a’n bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n sicrhau’r canlyniadau a fwriadwyd. Mae Grŵp Cynghori’r Gweinidog, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystyried adroddiadau cynnydd bob deufis ac mae’r Dirprwy Weinidog ac uwch swyddogion yn mynychu’r cyfarfodydd hyn. Mae adroddiadau o’r fath yn canolbwyntio ar feysydd lle mae yna risg i gyflawni, neu lle cyflawnwyd cerrig milltir arwyddocaol. Yn ystod 2014/15 cynhelir adolygiad diwydrwydd dyladwy o ymrwymiadau’r AIGC i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyson â’r amgylchedd datblygu polisi iechyd a gwasanaethau cymdeithasol sy’n datblygu ac yn sicrhau’r canlyniadau gwell rydym am eu cyflawni. Mae unrhyw newidiadau i’n dull o weithredu ymrwymiadau’n cael eu hadrodd i’r Cynulliad drwy ddatganiadau neu ddadleuon. Yn ogystal, mae Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu’n darparu asesiad blynyddol cynhwysfawr o’n cynnydd tuag at gyflawni pob ymrwymiad. Mae hyn yn cynnwys adrodd ar amrywiaeth o ddangosyddion canlyniad ac olrhain, sy’n darparu tystiolaeth dryloyw o effaith ein hymyriadau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

 

Mae gweithredu i gyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu’n rhan sylfaenol o broses gynllunio busnes yr AIGC sy’n galluogi swyddogion i gynghori Gweinidogion ar yr hyn y gellir ei gyflawni bob blwyddyn, ac i wneud penderfyniadau ar ddyrannu’r adnoddau cyfyngedig i Lywodraeth Cymru i sicrhau cyflawniad a gwerth am arian.

 

Mae ein ffocws cyffredinol ar sicrhau gwerth am arian o ran y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau wedi’i adlewyrchu yn y dull gofal iechyd darbodus a ddefnyddiwyd gennyf. Rwyf wedi datgan na allwn barhau i ddarparu ymyriadau nad ydynt yn sicrhau manteision, ac mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar bethau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

 

Mae’r GIG yn ei gyfanrwydd wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r broses o ailasesu’r ffordd o ddarparu nifer o wasanaethau arwyddocaol wedi helpu i sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau o’r arian a wariwn.

 

Ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu – y diweddaraf

 

Gwella mynediad i wasanaethau meddygon teulu

Un o’r ymrwymiadau yn Pump am Ddyfodol Tecach y Rhaglen Lywodraethu yw gwella mynediad i wasanaethau meddygon teulu i bobl sy’n gweithio. Caiff hyn ei ddarparu gyda buddsoddiad parhaus o dros £460 miliwn yn y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Datblygwyd dull o weithredu fesul cam i sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus.  Yn 2014-15 canolbwyntiwyd i raddau helaeth ar wella hygyrchedd yn ystod oriau craidd meddygon teulu, yn arbennig, fin nos rhwng 5.00pm a 6.30pm.   

 

Y ffocws ar gyfer 2015-16 fydd gwella hygyrchedd ymhellach yn ystod yr oriau craidd a thu allan i’r oriau craidd fin nos a galluogi pobl i gael gafael ar wasanaethau meddygon teulu ar y penwythnos. Mae mynediad i wasanaethau meddygon teulu ar y penwythnos yn cael ei ystyried drwy fodel newydd ar gyfer apwyntiadau a drefnwyd y tu allan i oriau craidd fel rhan o adolygiad ehangach o ofal heb ei drefnu yn cynnwys gwasanaeth y tu allan i oriau meddygon teulu. Hefyd, er mwyn rhoi dewis ehangach i bobl sy’n gweithio gael gafael ar wasanaethau meddygon teulu yn fwy cyfleus yn ystod y dydd ac yn hwyr min nos mewn lleoliad sy’n agosach at eu gweithle, cytunwyd ar gynigion i dreialu “cynllun cleifion dydd anghofrestredig y tu allan i ardal” mewn ychydig o feddygfeydd yng Nghaerdydd; Casnewydd; Abertawe a Wrecsam yn 2014-15. Ar ôl ei werthuso, ystyrir ymestyn y cynllun yn 2015-16.

 

Mae Fy Iechyd Ar-lein yn galluogi pobl i reoli eu gofal eu hunain drwy archebu apwyntiadau a phresgripsiynau amlroddadwy ar-lein. Er bod tua 75% o feddygfeydd wedi ymuno â Fy Iechyd Ar-lein, mae llai o gleifion meddygon teulu wedi ymuno (tua 35,000). Bydd Byrddau Iechyd a meddygon teulu’n annog mwy o feddygfeydd a chleifion i ymuno â Fy Iechyd Ar-lein yn 2015-16.

 

Bydd buddsoddiad o £0.5 miliwn yn parhau i gael ei wneud yn y Cynllun Anhwylderau Cyffredin yn 2015-16. Mae’r ymchwil sydd ar gael yn awgrymu bod teuluoedd â phlant bach yn defnyddio gwasanaethau anhwylderau cyffredin yn rheolaidd. Ein nod yw ymchwilio i ba raddau y mae’n cefnogi teuluoedd a mesur effaith y gefnogaeth hon drwy’r gwerthusiad. 

 

Y rhaglen archwiliadau iechyd 50+

Defnyddir £0.6 miliwn o gyllideb rhaglen ‘Modd i Fyw’ yn 2014-15 i ddatblygu pedair elfen y rhaglen. Mae hyn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed gydol 2013-14 ac yn cynnwys cymorth ar gyfer parhau i ddatblygu a chynnal y platfform ar-lein, parhau i gyllido cymorth wedi’i dargedu yn y gymuned mewn partneriaeth â’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, a chyllideb farchnata bwrpasol i gefnogi blwyddyn gyntaf y gwaith o weithredu’r rhaglen. Mae gwerthuso wedi bod yn elfen o’r rhaglen gyffredinol o’r dyddiau cynnar. I ddechrau roedd hyn yn cynnwys ymarfer gwerthuso ffurfiannol a oedd i’w gwblhau ddiwedd hydref 2014. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru’n datblygu cynigion ar gyfer ail gam y rhaglen i ddechrau yn 2015-16 yn dilyn canlyniadau’r gwerthusiad ffurfiannol.

 

Cynllun Gwên

Bydd buddsoddiad o £3.7 miliwn yn parhau i gael ei wneud yn ein rhaglen ‘Cynllun Gwên’ yn 2015-16.  Mae’r cyllid hwn yn rhan o’r dyraniad deintyddol rheolaidd sydd wedi’i neilltuo yng Ngham Gweithredu Cyflawni Gwasanaethau Craidd y GIG. 

 

Rwy’n falch o adrodd bod dadansoddiad cynnar o ddata yn awgrymu bod lefelau pydredd plant sy’n mynychu ysgolion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn gwella. Bydd yr Arolwg Epidemioleg Deintyddol o blant pump oed yn 2015-16 yn rhoi darlun cliriach o effaith y rhaglen.

 

Gofal Lliniarol

Rydyn ni’n parhau i roi cyllid o £6.6 miliwn yn 2015-16 ar gyfer gwasanaethau gofal lliniarol ledled Cymru. O 2015-16 ymlaen, bydd £5.019 miliwn yn cael ei drosglwyddo o Lywodraeth Cymru i’r Byrddau Iechyd ar gyfer darparu gwasanaethau gofal lliniarol a ddarperir gan hosbisau yn eu cymunedau.  Bydd Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn derbyn £1.41 miliwn, a bydd y gweddill yn ariannu mentrau fel gwasanaeth profedigaeth plant ac oedolion ifanc Cruse, adolygiad gan gymheiriaid a dwy system adborth cleifion a theuluoedd o’r enw Marw gydag Urddas a iWantGreatCare. 

 

 

 

Gwasanaeth 111 Galw Iechyd Cymru

Ein hymrwymiad yw adeiladu ar lwyddiant Galw Iechyd Cymru, a chynnig un rhif ar gyfer gofal iechyd y tu allan i oriau yng Nghymru, sy’n gysylltiedig â gwasanaethau lleol y tu allan i oriau. Y bwriad yw gwneud hyn drwy gyflwyno rhif 111 am ddim sydd wedi’i glustnodi gan Ofcom ar gyfer anghenion gofal iechyd brys (ond nid argyfwng).

 

Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am oruchwylio, datblygu a darparu’r rhif 111 nad yw’n argyfwng i GIG Cymru ac mae’n cael ei ddatblygu gan Fwrdd Rhaglen Gwella Gofal heb ei Drefnu. Mae cost penodi arweinydd prosiect a sefydlu tîm prosiect wedi’i bennu; bydd deall goblygiadau cost manwl y gwasanaeth hwn yn elfen allweddol o’r prosiect rhwng nawr a mis Rhagfyr.

 

Gofal llygaid

Bydd buddsoddiad o  £1.2 miliwn yn parhau i gael ei wneud yn rhaglen ‘Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru’ ar gyfer Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru, £3.1 miliwn ar gyfer Archwiliadau Iechyd Llygaid yng Nghymru a  £6 miliwn ar gyfer Gwasanaeth Sgrinio ar gyfer Retinopatheg Diabetig Cymru yn 2015-16.  Mae’r cyllid hwn o fewn y dyraniad offthalmig rheolaidd ar gyfer Cyflenwi Gwasanaethau Craidd y GIG. Yn 2015-16 rydym yn darparu  £14.0 miliwn, sydd wedi’i drosglwyddo i ddyraniad refeniw'r byrddau iechyd, ar gyfer trin dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint gan ddefnyddio’r cyffur Lucentis. Wrth i gyffuriau newydd ymddangos gyda’r posibilrwydd o driniaeth fwy effeithiol am lai o gost bydd y rhain yn cael eu gwerthuso gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG).

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

O ran gwasanaethau cymdeithasol, mae “Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu” yn cyfleu ein blaenoriaethau polisi yn llawn tan 2016, ac mae’r gyllideb a’r adnoddau eraill wedi cael eu had-drefnu’n llawn i gyflawni’r ymrwymiadau. Heblaw’r trosglwyddiadau y soniwyd amdanynt uchod, i Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Leol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae darpariaeth cyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol o £46 miliwn yn 2014-15 wedi’i gynnal ar gyfer 2015-16. Mae’r elfen ychwanegol yn ymwneud â throsglwyddo’r Gronfa Byw’n Annibynnol. Mae cyfanswm y gyllideb ar gyfer 2015-16, £67 miliwn, yn adlewyrchu’r costau i wneud ein cyfraniad at ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. Fodd bynnag, dylid nodi mai amcan cyffredin ar draws portffolios gweinidogol yw cyflawni llawer o’r ymrwymiadau hyn, gan gynnwys Trechu Tlodi a Chymunedau a Llywodraethu Leol. Bydd y £10 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Ddrafft yn galluogi awdurdodau lleol i ymdrin â phwysau uniongyrchol. O gymryd hyn gyda’r cyllid rydym wedi’i ddarparu i awdurdodau lleol a’u partneriaid i gefnogi’r broses o bontio i’r trefniadau newydd o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), bydd yn galluogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd i fod yn hyderus yn eu gallu i ddarparu ffyrdd newydd o weithio a chyflwyno trefniadau integredig newydd.

 

Darperir cyllideb o £1 miliwn i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r Strategaeth Pobl Hŷn a adnewyddwyd yn 2013. Caiff  £1.1 miliwn ei neilltuo ar gyfer y Strategaeth Gofalwyr sydd newydd ei hadnewyddu Bydd £0.9m o’r BEL Gwasanaethau ar gyfer Plant yn cynnig cymorth cyllidebol penodol ar gyfer ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu ym meysydd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Diogelu. Mae Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd wedi’u cyflwyno ledled Cymru erbyn hyn, a bydd y gyllideb yn trosglwyddo i’r Grant Cynnal Refeniw yn 2015-16.

 

Yng Nghyllideb Ddrafft y llynedd dyrannodd Llywodraeth y DU £27 miliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r cyllid ar gyfer y Gronfa Byw’n Annibynnol. Fel rhan o raglen Diwygio Lles Llywodraeth y DU roedd y Gronfa i fod i gau ar 31 Mawrth 2015, gyda’r cyfrifoldeb am redeg y gronfa wedi’i datganoli. Yn ystod 2014-15, symudwyd y dyddiad cau i 30 Mehefin 2015 gan arwain at drosglwyddo elfen o’r cyllid hwn i Drysorlys EM. Mae hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a bydd yn cael ei ystyried fel trosglwyddiad cyllideb yn ystod y flwyddyn. Mae’r swm a gadwyd yn cynrychioli cost cefnogi’r 1,509 o bobl yr amcangyfrifir a fydd yn derbyn arian o’r Gronfa yng Nghymru ar 30 Mehefin 2015 pan fydd y Gronfa’n cau. Yn fuan, byddwn yn lansio ymgynghoriad i gael barn ar y trefniadau y dylai Llywodraeth Cymru eu cyflwyno i gefnogi derbynwyr y Gronfa yng Nghymru ar ôl iddi gau. Mae Gweinidogion Cymru’n bwriadu gwneud penderfyniad yng ngwanwyn 2015 fel bo’r trefniadau newydd ar waith mewn da bryd o 30 Mehefin ymlaen y flwyddyn nesaf.

 

Ystyrir bod cyllideb y Rhaglen Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddigonol ar gyfer cyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. Fodd bynnag, mae mwyafrif llethol y costau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu talu drwy’r Grant Cynnal Refeniw i awdurdodau lleol. Mae cyllideb y rhaglen gwasanaethau cymdeithasol o fewn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn llai na 4% o’r gyllideb gyfan ar gyfer y sector drwy’r Grant Cynnal Refeniw.

 

Yn ogystal â threfniadau monitro ledled yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, caiff y gwaith o gyflawni’r ymrwymiadau ei fonitro drwy ddull strategol pum mlynedd, y Rhaglen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Mae’r fframwaith trawsbynciol hwn yn cynnwys holl ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu a chyflwynir adroddiad misol ar gynnydd i’r Gweinidog.

 

Ariannu arloesol

Ym mis Mai, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid y byddai canolfan gofal canser arbenigol newydd yn cael ei datblygu yn Ysbyty Felindre gan ddefnyddio modelau ariannu buddsoddiad arloesol. Amcangyfrifir y bydd cost gyfalaf y ganolfan newydd yn £210 miliwn a bydd yn hwyluso mynediad i wasanaethau canser o safon uchel, gyda’r gorau yn y byd. Mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn datblygu Rhaglen Fras Strategol y cynllun a rhagwelir y bydd wedi’i gwblhau yn yr hydref. Er bod nifer o ddulliau ariannu dan ystyriaeth, mae’r model nad yw’n dosbarthu elw wedi’i nodi’n gynnar fel dull posibl o gyflawni’r cynllun. Bydd hyn yn cael ei ystyried a’i gadarnhau wrth i’r cynllun fynd drwy’r broses achos busnes. Mae swyddogion wedi bod yn trafod gyda chydweithwyr o GIG yr Alban sydd wedi gweithio ar gynlluniau tebyg i sicrhau bod y dull a ddewisir yn briodol.

 

Mae nifer o feysydd buddsoddi posibl eraill o fewn GIG Cymru yn cael eu hystyried ar gyfer ariannu arloesol. Mae’r rhain yn cael eu cwmpasu ar hyn o bryd, ond maent yn cynnwys y posibilrwydd o ddatblygu rhaglen gofal sylfaenol a chymunedol a rhaglen arbed ynni. Gallai’r dulliau ariannu gynnwys cyflwyno menter hyb ariannu, ar gyfer dwyn y Byrddau Iechyd, Awdurdodau Lleol, yr heddlu, y gwasanaethau tân ac achub a chyrff cyhoeddus eraill ynghyd, gyda phartner datblygu o’r sector preifat.

 

O ran y gofyniad i wneud newidiadau deddfwriaethol, bydd angen asesu hyn wrth i’r rhaglenni buddsoddi posibl gael eu datblygu. Er enghraifft, o ran y datblygiad arfaethedig yn Felindre, dylid nodi bod gan Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru yr hawl i fenthyg ar hyn o bryd. Fodd bynnag, yn achos y rhaglen hon a rhaglenni eraill, bydd angen i ni ystyried pob math o ffactorau, yn cynnwys pwerau statudol, i benderfynu sut y dylid datblygu a threfnu’r dulliau ariannu i gyflawni cynlluniau am y gwerth gorau.

 

 

Darparu ar gyfer Deddfwriaeth

 

Bil Iechyd y Cyhoedd

Cydnabyddir y gallai cynigion unigol ym Mil Iechyd y Cyhoedd arwain at oblygiadau ariannol amrywiol i Lywodraeth Cymru. Maent wrthi’n cael eu hasesu’n llawn gydol y broses o ddatblygu’r ddeddfwriaeth, yn cynnwys trwy waith i lunio Asesiad llawn o’r Effaith Rheoleiddiol. Nid oes disgwyl unrhyw wariant yn gysylltiedig â Bil Iechyd y Cyhoedd ym mlwyddyn ariannol 2015-16.

 

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd dadl cam 2 y Bil Rheoleiddio ac Arolygu yn cael ei chynnal yn y Cynulliad ym mis Chwefror 2015, a phrosesau deddfwriaethol y Cynulliad yn cael eu cwblhau erbyn mis Rhagfyr 2015. Ni fydd yn dod yn ddeddf nes mis Ebrill 2017, ac ni ragwelir y bydd angen gwario ar y Bil yn 2015-16.

 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) newydd yn darparu’r fframwaith ar gyfer cyflawni’r newidiadau sydd eu hangen i greu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yn y dyfodol. Daw’r Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2016 a bydd ein rhaglen yn cefnogi’r newidiadau a gyflwynir yn y Ddeddf. Gwyddom fod rhaid i drawsnewid fod yn flaenoriaeth i wasanaethau cymdeithasol, a gwneir hynny drwy’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan bobl lais cryfach a mwy o reolaeth dros y gwasanaethau maent yn eu derbyn, canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar a chanolbwyntio mwy ar gyfuno iechyd a gwasanaethau cymdeithasol mewn meysydd hollbwysig. Bydd y Ddeddf yn niwtral o ran refeniw.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r symudiad i system newydd a darparu cymorth trosiannol er mwyn paratoi ar gyfer 2016. Rydym yn dyrannu £3 miliwn yn 2015-16 i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Ddeddf. Mae hwn yn barhad o’r cyllid a ddarparwyd yn 2014-15 i alluogi awdurdodau lleol a phartneriaid i weithredu’r Ddeddf newydd. Mae pob llinell gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol wedi’i thargedu i gyflawni’r agenda gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy y mae’r Ddeddf yn sail iddi. Yn arbennig, mae Rhaglen Ddatblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn darparu £8.4 miliwn i fuddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i’w paratoi ar gyfer newidiadau sy’n deillio o’r Ddeddf; bydd rhan fawr ohono yn cael ei ddarparu fel grant i awdurdodau lleol.

 

Fel y nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a oedd yn cyd-fynd â’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), bydd rhagor o waith ar asesu costau yn cael ei wneud yng nghyd-destun datblygu’r is-ddeddfwriaeth sy’n sail i’r Ddeddf. Bydd y gwaith hwn yn darparu darlun cliriach o’r costau a’r manteision unigol sy’n deillio o’r newidiadau sy’n ofynnol gan y Ddeddf. Dylid ystyried canlyniadau’r gwaith hwn yn erbyn y cefndir ehangach o system a ddatblygir i fod yn niwtral o ran refeniw drwy symud y ffocws a’r baich costau tuag at gefnogi lles, ymyrraeth gynnar a llais y dinesydd ac oddi wrth ymyriadau hwyr, dwysedd uchel, ymwthiol a drud. Caiff y newid sylweddol hwn ei gefnogi gan dair blynedd o gyllid trosiannol i lywodraeth leol a’i phartneriaid i’w helpu i dalu costau symud i ddull newydd o weithio.

 

 

Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013

Daw Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 i rym yn llawn ar 1 Rhagfyr 2015. Mae’r broses o roi’r Ddeddf ar waith yn mynd rhagddi ers tro, gydag ymgyrch gyfathrebu eang, ailddatblygu’r Gofrestr Rhoddwyr Organau er mwyn gallu cofnodi penderfyniadau i optio allan, a pharatoi is-ddeddfwriaeth. Mae cost gyffredinol gweithredu’r Ddeddf yn parhau i fod tua £7.5 miliwn dros 10 mlynedd. Dyrannwyd £2 filiwn ar gyfer 2014-15 a £2.8 miliwn yn 2015-16.

 

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Dangosodd adroddiad interim a oedd yn adolygu’r gwaith o weithredu Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 bod defnyddwyr gwasanaethau’n teimlo bod y Mesur wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w gofal ar y cyfan. Mae dros 33,000 o bobl wedi cael asesiad o’u hiechyd meddwl gan wasanaeth gofal sylfaenol yn y 12 mis diwethaf ac wedi derbyn gwybodaeth, cyngor ac ymyrraeth pan fo angen. O’r rhai sy’n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, mae gan dros 90 y cant Gynllun Gofal a Thriniaeth bellach. Mae gwasanaethau Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol wedi’u hymestyn, ac mae defnyddwyr gwasanaethau a staff wedi sôn am ganlyniadau cadarnhaol. Wrth barhau i werthuso a monitro’r Mesur gan ddefnyddio ymchwil annibynnol, arolygon boddhad a data perfformiad, byddwn yn parhau i roi pwyslais ar sicrhau gwelliannau pellach i safon y gofal a ddarperir a sicrhau bod yr arferion da hyn yn cael eu rhannu.

 

Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008

Daeth Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) i rym ar 1 Ebrill 2011. Mae arian wedi cael ei ddyrannu ers 2010 i ddarparu ar gyfer y goblygiadau ariannol sydd ynghlwm â threfniadau gwneud iawn y GIG o dan y rheoliadau hyn.

 

Ar gyfer 2010-11, dyrannwyd £1.8m ar sail y gost o roi’r trefniadau ar waith, oedd yn cynnwys hyfforddi staff y GIG a llunio dogfennau cyfathrebu cyhoeddus. £0.5 miliwn a wariwyd mewn gwirionedd gan fod angen i’r trefniadau newydd ennill eu plwyf ac yn sgil yr amser gweithredu oedd ei angen i gael penderfyniad ar achosion. Y cyfanswm gwirioneddol a wariwyd yn 2013-14 oedd £1.2 miliwn ac mae £1.3 miliwn wedi’i ddyrannu ar gyfer 2014-15.  Bydd cyllid y dyfodol yn cael ei ddyrannu ar sail costau’r blynyddoedd blaenorol.

 

Rheoliadau drafft Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgoriau Hylendid Bwyd) (Cymru)

Amcangyfrifir y bydd cyflwyno’r rheoliadau newydd hyn yn costio £0.031 miliwn y flwyddyn i awdurdodau lleol yng Nghymru er y gallai hyn newid fel rhan o’r broses ymgynghori. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys cynnal gwiriadau ar fusnesau bwyd, deunydd cyhoeddusrwydd a chefnogi busnesau bwyd nad ydynt yn cydymffurfio neu gymryd camau gorfodi. Nid oes costau’n gysylltiedig â diwygio’r canllawiau statudol.

 

Deddfwriaeth Llywodraeth y DU

Mae Llywodraeth y DU yn monitro deddfwriaeth y DU ac yn cyfathrebu â swyddogion yn Whitehall ar ddau Fil y DU sydd gerbron y Senedd, deg Bil Drafft y DU, a deunaw Bil Aelod Preifat a allai fod â goblygiadau polisi i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys:

 

Nes bod darpariaethau terfynol Bil sy’n effeithio ar Gymru yn hysbys, nid oes modd nodi goblygiadau ariannol pendant. Y nod allweddol yw sicrhau nad yw unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer y DU yn cael effaith andwyol ar Gymru a Gweinidogion Cymru ac y manteisir ar unrhyw gyfleoedd ar gyfer deddfwriaeth i Gymru.

 

Gwariant Ataliol

Yn y Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, bwriedir llawer o gyllidebau ar gyfer gwariant ataliol e.e. iechyd meddwl/lles a chamddefnyddio sylweddau. Mae yna ffocws arbennig ar iechyd ym mlynyddoedd cynnar plentyn hefyd, lle mae’r GIG yn gweithredu fel y prif wasanaeth cyffredinol. Mae Byrddau Iechyd yn cynnig rhaglenni goruchwylio iechyd a gwiriadau datblygiadol ar blant o enedigaeth i’r amser pan maent yn cychwyn yr ysgol er mwyn canfod unrhyw gyflyrau meddygol neu oedi mewn datblygiad a allai fod angen ymchwilio iddo ymhellach neu ei drin. Yn aml, defnyddir y cysylltiadau hyn fel cyfle i hybu iechyd, gan ystyried yr anghenion holistaidd ac amgylchiadau’r plant unigol a’u teuluoedd. Mae gwaith ar droed i adolygu’r arferion cyfredol, gyda golwg ar ddatblygu model arferion gorau drwy raglen Plentyn Iach Cymru. Nid yw’r cyllidebau hyn wedi’u cynnwys yn y £105 miliwn a ddyfynnwyd isod.

 

Mae cyfran y gyllideb sy’n canolbwyntio ar atal problemau a lleddfu’r galw ar wasanaethau yn y dyfodol yn £105 miliwn yn 2015-16, sef 2% o gyfanswm y gyllideb refeniw. Mae’r eitemau canlynol wedi’u cynnwys yn y £105 miliwn.

 

·      Caiff £81.4 miliwn o gyllid craidd ei ddyrannu i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n darparu nifer o raglenni gyda’r nod o atal salwch fel Gwasanaethau Rhoi’r Gorau i Ysmygu, Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Nid yw’r dyraniad cyllid wedi’i glustnodi ar gyfer unrhyw weithgarwch penodol er mwyn rhoi cymaint o hyblygrwydd â phosibl wrth reoli eu hadnoddau i gyflawni amrywiaeth eang o flaenoriaethau ac ymrwymiadau.

 

·      Dyrennir £17.6 miliwn ar gyfer rhaglenni imiwneiddio - yn cynnwys ymestyn y rhaglen ffliw tymhorol i gynnwys plant 2, 3 a 4 oed a phlant ym mlwyddyn 7, brechu pobl 70 oed rhag yr eryr a rhaglen ‘dal i fyny’ ar gyfer pobl 78 oed. Mae brechu babanod rhag rotafirws pan fyddant yn 2 a 3 mis oed a’r rhaglen MenC wedi’u haddasu i gael gwared ar ddos babanod, a chyflwyno dos glasoed yn lle hynny, tra bod brechu myfyrwyr o dan 25 oed sy’n dechrau yn y brifysgol wedi’i gyflwyno nes bod y glasoed sydd wedi’u brechu yn cyrraedd eu 18 oed.

 

·      Mae £8.5 miliwn yn cefnogi’r Cynllun Cychwyn Iach sef cynllun statudol ledled y DU sy’n darparu rhwyd diogelwch maethol i fenywod beichiog agored i niwed, mamau newydd a phlant mewn teuluoedd sy’n derbyn budd-daliadau. Caiff y Cynllun Iach ei weinyddu gan yr Adran Iechyd ar ran Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

·      Mae rhaglen waith ac iechyd ‘Cymru Iach ar Waith’ yn darparu cyngor a chymorth i gyflogwyr ddatblygu polisïau ac arferion i wella iechyd a lles eu staff, i leihau effaith salwch yn y gwaith, ac i annog ymyrraeth gynnar er mwyn adsefydlu. Mae Cymru Iach ar Waith yn cefnogi dros 1,000 o gyflogwyr bob blwyddyn ac mae 27.9% o bobl sy’n gweithio yng Nghymru yn cael eu cyflogi gan gyflogwr sy’n cymryd rhan yn y rhaglen. Caiff y rhaglen ei hariannu ar y cyd gan Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth gyda chyfraniad o £0.280 miliwn gan Brif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

·      Dyfarnwyd £0.2 miliwn i Alcohol Concern Cymru (ACC) i godi ymwybyddiaeth o broblemau camddefnyddio alcohol, i fonitro ac adrodd ar labelu a hyrwyddiadau alcohol amheus, arwain ar ymgyrchoedd gwybodaeth, cyhoeddi canllawiau arfer da a gwneud gwaith ymchwil.

 

·      Dyrannwyd £0.2 miliwn i’r Rhaglen Heneiddio’n Iach sy’n cael ei gweinyddu gan Age Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw diwallu anghenion pobl hŷn a’u helpu i fwynhau iechyd a lles corfforol, meddyliol ac emosiynol da. Datblygwyd mesurau perfformiad atebolrwydd yn seiliedig ar ganlyniadau i fesur canlyniadau’r rhaglen.

 

·      Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i ymgyrch iechyd flynyddol i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau iechyd cyhoeddus mwyaf. Mae Ymgyrch Farchnata Gymdeithasol Newid am Oes yn canolbwyntio ar, ac yn mynd i’r afael â gordewdra, bwyta’n iach, gweithgarwch corfforol ac alcohol ac mae dros 76,000 o bobl wedi cofrestru i dderbyn gwybodaeth. Cytunwyd i ddarparu £0.3 miliwn o gyllid ar gyfer 2015-16 i ddatblygu’r rhaglen Newid am Oes.

 

·      Mae £0.2 miliwn yn cefnogi Dewch i Gerdded Cymru, rhaglen a ddarperir gan Gymdeithas y Cerddwyr sy’n cydgysylltu a datblygu prosiectau cerdded iach yng Nghymru, gan dargedu’r oedolion lleiaf actif. Mae’r prosiect yn ategu nodau Llywodraeth Cymru o gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yng Nghymru a gwella mynediad i gefn gwlad ac arfordir Cymru.

 

·      Dyfarnwyd £0.1 miliwn i ASH Cymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni agweddau ar y cynllun gweithredu ar reoli tybaco, sy’n ceisio lleihau lefelau ysmygu ymysg oedolion yng Nghymru i 16% erbyn 2020. Mae’r ffigur yn 21% ar hyn o bryd.

 

·       Dyrannwyd £0.1 miliwn i gefnogi’r gwaith o ddarparu a chyflwyno Dull Atal Cenhedlu Gwrthdroadwy Hirdymor (LARC) mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Nod yr ymyrraeth yw lleihau beichiogrwydd anfwriadol drwy ddefnyddio LARC fel ffordd o oedi beichiogi mewn menywod sy’n ddibynnol ar gyffuriau nes eu bod wedi gwella ddigon i fod yn rhiant effeithiol.

 

·      Dyrannwyd £1.0 miliwn i gefnogi buddsoddiad mewn data o ansawdd uchel ar lefel genedlaethol a lleol megis Arolwg Iechyd Cymru ac arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol i gefnogi penderfyniadau buddsoddi ac olrhain effaith polisïau.

 

 

Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed – Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008-2018:

Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed yw strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill yng Nghymru. Mae’r strategaeth yn cynnwys pedwar maes gweithredu blaenoriaeth: atal niwed; cynorthwyo camddefnyddwyr sylweddau i wella eu hiechyd a dal ati i wella; cynorthwyo ac amddiffyn teuluoedd; a mynd i’r afael â’r cyflenwad. Caiff y Strategaeth ei chefnogi gan Gynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2013-15 a bron i £50 miliwn o gyllid refeniw a chyfalaf. Mae Llywodraeth Cymru’n monitro cynnydd yn erbyn ymrwymiadau’r Cynllun Cyflawni’n rheolaidd gan asesu effaith drwy amrywiaeth o ddangosyddion perfformiad sy’n cwmpasu gwasanaethau triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau a chanlyniadau i’r unigolyn sy’n ymdopi â chamddefnyddio sylweddau. Er enghraifft, mae ffigurau marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau a ryddhawyd ym mis Medi 2014 yn dangos bod 208 o farwolaethau yn sgil gwenwyno â chyffuriau (cyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon) yng Nghymru yn 2013, gostyngiad o 6 (2.8%) o gymharu â 2012 a 135 o farwolaethau yn sgil camddefnyddio sylweddau (yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon), yr un nifer â 2012. O ran gallu cael gafael ar driniaeth camddefnyddio sylweddau, roedd 85.5% o achosion wedi’u cwblhau o fewn 20 diwrnod gwaith rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn 2012/13.

 

Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, Cynllun Cyflawni 2012 – 2016:

Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn ein helpu i gyflawni’r dyheadau a nodwyd gennym yn ein Rhaglen Lywodraethu, Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu a Law yn Llaw at Iechyd. Mae’n cyfuno polisi sydd ar gael, cydgrynhoi cynnydd hyd yn hyn ac yn gwreiddio Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ymhellach, sy’n fesur arloesol. Mae’r Mesur wedi sicrhau bod gan dros 90% o bobl sydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd gynllun gofal a thriniaeth erbyn hyn ac mae dros 38,000 o bobl wedi’u hasesu gan eu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl gofal sylfaenol lleol newydd ledled Cymru yn ei 9 mis cyntaf gyda meddygon teulu a defnyddwyr gwasanaethau yn dweud eu bod yn fodlon iawn â’r gwasanaeth.

 

Mae’r strategaeth yn mabwysiadu dull cyfannol, traws-lywodraeth, gan fod cymaint o bethau sy’n bwysig i les meddwl pobl - tai, cyflogaeth neu addysg, er enghraifft – y tu hwnt i faes iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun Cyflawni Cymru ar gyfer Gofal Iechyd Llygaid 2013-2018

Bydd byrddau iechyd yn newid eu ffordd o ddarparu adnoddau gan ddarparu yn llawer agosach at adref. Bydd hyn yn cefnogi Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru, sydd wedi datblygu gweithlu lleol medrus ac wedi darparu diagnosis gwell a mwy o apwyntiadau dilynol ar gyfer gofal iechyd llygaid yn lleol o fewn lleoliadau gofal sylfaenol.

 

Yn 2015-16, bydd y Grŵp Llywio a’r grwpiau cynghori dilynol a sefydlir i weithredu argymhellion y cynllun Gofal Llygaid, yn nodi dulliau o ariannu ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gofal yn agosach at gartrefi cleifion, a fydd yn ei dro yn ysgogi arloesedd cynaliadwy a gwelliannau i wasanaeth lleol.

 

Mae’r cynllun yn mabwysiadu dull cyfannol o ymdrin â gofal iechyd llygaid, gan gyfuno cynnydd hyd yn hyn ledled y sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r trydydd sector. Mae’n cynnwys cyd-gynhyrchu a gofal iechyd darbodus ac yn amlygu’r cyfraniadau sy’n ofynnol gan GIG Cymru, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector er mwyn sicrhau manteision i’r claf.

 

 

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

O fewn Gwasanaethau Cymdeithasol, mae ein polisi’n seiliedig ar hyrwyddo lles pobl ac atal problemau. O sicrhau canlyniadau lles cadarnhaol ni fydd angen gwasanaethau neu o leiaf ni fydd eu hangen am y tro. Mae portffolio’r rhaglen Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau sy’n diwallu angen a nodwyd sydd â’r nod o leihau’r galw am wasanaethau yn y dyfodol. Y flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a’r hyn sy’n ganolog i gyllidebau Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yw hyrwyddo a chyflymu’r newid trawsnewidiol yn y ffordd y darperir gwasanaethau, gan symud adnoddau ar draws y system gyfan tuag at ddarparu yn y gymuned, gan ddwyn y GIG, awdurdodau lleol, y trydydd sector a darpariaeth annibynnol ynghyd i wella’r capasiti ar gyfer atal ac ymyrryd yn gynnar.

 

Mae llawer o fentrau ataliol y sector, fel ail-alluogi, yn cael eu hariannu drwy’r Grant Cynnal Refeniw i awdurdodau lleol, neu grantiau penodol fel Buddsoddi i Arbed neu Gefnogi Pobl.

 

Cynllun statudol yw’r Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS) sy’n helpu rhai o’r plant a theuluoedd mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae’r gwasanaethau’n canolbwyntio ar deuluoedd lle mae gan y rhieni broblemau penodol a heriol sy’n effeithio ar les eu plant. Dechreuodd y timau IFSS eu gwaith ar 1 Medi 2010 ac maent bellach yn gweithredu ledled Cymru. Rydyn ni wedi gwneud buddsoddiad ariannol sylweddol a buddsoddiadau eraill i feithrin capasiti a sgiliau y timau IFSS eu hunain, yn ogystal â hyfforddi gweithwyr proffesiynol ac eraill ar draws eu partneriaeth mewn technegau allweddol. Mae’r technegau hyn yn helpu’r gweithwyr proffesiynol i ymgysylltu’n well â theuluoedd a mabwysiadu’r ethos o weithio gyda chryfderau’r teuluoedd i’w grymuso i wneud newidiadau i’w bywydau.

 

Canfu’r adroddiad gwerthuso ei bod hi’n dal rhy gynnar i ddod i unrhyw gasgliadau cadarn am effaith hirdymor IFSS ar ganlyniadau teuluoedd a chynaliadwyedd neu barhad effeithiau o’r fath. Fodd bynnag, mae’r data monitro neu olrhain sydd ar gael o’r safleoedd yn awgrymu’n gyffredinol bod mwyafrif y teuluoedd sy’n cymryd rhan yn gwneud cynnydd cadarnhaol (er bod hyn yn seiliedig ar niferoedd cymharol fach).

 

Er bod ychydig o’r consortia IFSS wedi gwneud rhywfaint o waith yn y maes hwn, mae gwaith yn cael ei wneud i gasglu gwybodaeth gadarnach am yr arbedion tymor hirach posibl (osgoi costau) sy’n gysylltiedig â’r model IFSS. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau ddechrau 2015.

 

Yn 2014-15, bydd IFSS yn cael ei gyflwyno’n llawn, gyda thros £4.5 miliwn yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol a’i drosglwyddo i’r Grant Cynnal Refeniw yn 2015-16.  

 

Mae’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi cymorth sylweddol i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Drwy Ymddiriedolaeth Cronfa’r Teulu, y Grant Plant a Theuluoedd a chynllun Adran 64 rydyn ni’n cyfrannu dros £7.3 miliwn yn uniongyrchol i’r trydydd sector. Mae’r grantiau hyn yn cefnogi prosiectau a chapasiti o fewn y sector. Mae’r cyllid hwn yn cael ei adolygu a byddwn yn cyflwyno rhaglen gyllido trydydd sector newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol sy’n cyd-fynd â’n blaenoriaethau ar gyfer cefnogi dulliau atal ac ymyrryd yn gynnar i ddisodli’r Grant Sefydliadau Plant a Theuluoedd a’r cynlluniau grant adran 64 cyfredol a ddaw i ben yn 2015.

 

Hefyd, drwy roi ar waith y Cynllun Gweithredu Strategol Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig, o fewn Cam Gweithredu Oedolion a Phobl Hŷn, caiff cymorth ei ddarparu i gefnogi plant ac oedolion ag awtistiaeth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer prosiectau rhanbarthol bach ar lefel gymunedol a chymorth i oedolion â syndrom Asperger a bydd yn trosglwyddo i’r Grant Cynnal Refeniw yn 2015-16. 

 

Mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i barhau i weithio i amddiffyn a diogelu’r rheini mewn cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed. Mae’n cyllideb ddiogelu (£0.6 miliwn) yn y Cam Gweithredu Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yn cefnogi amrywiaeth o fentrau i gryfhau trefniadau ledled Cymru mewn meysydd fel esgeulustod, masnachu mewn pobl a cham-fanteisio’n rhywiol ar blant. Trosglwyddwyd y cyllid ar gyfer y rhaglen Adolygiadau Marwolaethau Plant i Iechyd Cyhoeddus Cymru a bydd yn sicrhau dyfodol hirdymor y rhaglen. O fewn cyllideb wastad ar gyfer 2015-16, bydd y gwaith hwn yn parhau i gael ei ymestyn wrth i ni geisio darparu fframwaith cyfatebol ar gyfer amddiffyn oedolion, gan gynnwys rhoi adolygiadau arferion oedolion ar waith.

 

Cynnydd ar y Fformiwla Dyrannu Adnoddau

Cefais gyfarfod â swyddogion i drafod y cynnydd a wnaed yn y maes hwn. Mae’r prosiect wedi edrych ar ymchwil o’r DU a thramor i nodi’r materion allweddol i fynd i’r afael â nhw fel rhan o Raglen Adolygu Dyrannu Adnoddau.

 

Er bod gwaith cynnar wedi nodi nifer o feysydd i’w gwella, mae hefyd wedi cadarnhau bod llawer o achosion o arferion da eisoes yn bodoli o fewn sail ddyrannu gyfredol “Townsend”.

 

Mae angen adolygu’r fformiwla ddyrannu’n gyson a gall rhai newidiadau gymryd amser. Fodd bynnag, yn sgil y newidiadau demograffig amlwg cydnabyddedig dros y blynyddoedd diwethaf, a’r rhai a ragfynegir wrth symud ymlaen, rwyf wedi cytuno ar nifer o dargedau a gwelliannau byrdymor gyda’r swyddogion y dylid eu blaenoriaethu i sicrhau cymaint o fanteision â phosibl ac i helpu i sicrhau gwasanaethau cynaliadwy yn y tymor byr. Mae’r rhain yn cynnwys:

 

Ø  Adolygu a mireinio’r gwendidau a’r cyfyngiadau wrth gasglu gwybodaeth a defnyddio’r fformiwla anghenion uniongyrchol cyfredol e.e. gwybodaeth a gesglir drwy Arolwg Cymru;

 

Ø  Sicrhau bod dyraniadau a’r fformiwla yn cyd-fynd â’r amcan strategol allweddol i symud adnoddau yn unol â’r agenda gofal iechyd darbodus a thuag at atal a thrin yn gynt;

 

Ø  Mynd i’r afael â phroblemau gyda llif ariannu rhwng sefydliadau’r GIG a chymunedau;

 

Ø  Adolygu’r broses barhaus o glustnodi dyraniadau mewn sefydliadau iechyd integredig, yn cynnwys dod â’r adolygiad o glustnodi ym maes iechyd meddwl ymlaen i 2014;

 

Ø  Datblygu dulliau ariannu eraill a chymhellion i sicrhau bod gofal yn cael ei drosglwyddo i wasanaethau sylfaenol a chymunedol priodol.

 

Ø  Datblygu rhaglen Adolygu Dyrannu Adnoddau barhaus i gynnal, diweddaru a datblygu’r fformiwla ymhellach er mwyn adlewyrchu’r dystiolaeth ddiweddaraf, anghenion y boblogaeth a data ariannol a dyrannu.

 

Cam cyntaf y gwaith hwn yw diweddaru fformiwla anghenion uniongyrchol “Townsend” gyda’r setiau data diweddaraf ar boblogaeth, Arolwg Iechyd Cymru, y Gofrestrfa Ganser a Chostau Cyllideb Rhaglenni. Bydd y diweddariad hwn yn llywio dyraniad y £225 miliwn yn 2015/16.  Ail gam y gwaith fydd:

 

·       adolygu dilysrwydd setiau data yn erbyn setiau data addas posibl eraill;

 

·       asesu a yw anghydraddoldebau iechyd ac amddifadedd yn cael sylw a chydnabyddiaeth briodol;

 

·       a roddwyd sylw digonol i ddemograffeg amrywiol a newidiadau mewn demograffeg.

 

Trefniadau Cynllunio canol dymor integredig tair blynedd

Dros y 12 mis diwethaf edrychwyd o’r newydd ar y system gynllunio yng Nghymru ac mae hynny wedi bod yn fuddiol iddi. Roedd Fframwaith Cynllunio y GIG a Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 yn egluro’r bwriad a’r uchelgais ar gyfer cynllunio yn GIG Cymru ac yn seiliedig ar raglen waith sydd wedi arwain at nifer o fanteision, gan gynnwys:

 

·         Sefydlu cylch cynllunio clir, gyda rolau a chyfrifoldebau wedi’u nodi’n glir a ffocws ar gyflawni;

 

·         Trwy Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014, cyflwynwyd fframwaith statudol ar gyfer cynllunio ariannol tymor canolig gyda chysylltiadau pendant â phwysigrwydd gwasanaeth integredig a chynllunio gweithgarwch yn effeithiol;

 

·         Sefydlwyd proses graffu a chymeradwyo gadarn yn seiliedig ar gynlluniau. Dim ond ar ôl cael eu hasesu’n drylwyr y mae cynlluniau’n cael eu cymeradwyo - sicrhawyd ansawdd y broses hon gan y Sefydliad Llywodraethu Da.

 

·         Cryfhawyd swyddogaethau cynllunio’r Byrddau a’r Ymddiriedolaethau Iechyd, a datblygwyd trefniadau cenedlaethol cryfach.

 

·         Y sefyllfa yn dilyn y cylch cynllunio cyntaf yw bod gan bedwar sefydliad gynlluniau tymor canolig wedi’u cymeradwyo ac mae chwe sefydliad wedi cyflwyno cynlluniau blynyddol i sicrhau ffocws parhaus ar gyflawni wrth iddynt gryfhau eu cynlluniau tymor canolig. Cadarnhawyd y penderfyniadau hyn mewn datganiadau ysgrifenedig ar 7 Mai a 27 Mehefin.

 

Mae lle i wella a datblygu’r dulliau a’r system o hyd. Rydym wrthi’n diwygio fframwaith cynllunio GIG Cymru, gan ddysgu o gylch cyntaf y broses newydd. Bydd y Fframwaith Cynllunio nesaf yn:

 

·      cael ei ddatblygu ar y cyd gyda’r GIG ac ar draws yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

·       symleiddio’r gofynion cynllunio cenedlaethol ymhellach

·       rhoi lle canolog i’r agenda gofal iechyd darbodus yn y ddogfen, gan ei hannog i wreiddio ar draws sbectrwm gweithgareddau a phrosesau’r GIG

·       cryfhau’r dulliau asesu a monitro ymhellach

·       rhoi esboniad pellach o’r manteision a’r cymhellion sy’n gysylltiedig â chael cynllun canol tymor wedi’i gymeradwyo

·       amlinellu rhaglen waith i ddatblygu cynllunio fel proffesiwn

 

Bydd gofyn i bob Bwrdd ac Ymddiriedolaeth Iechyd ddiwygio eu cynlluniau dros yr hydref i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 31 Ionawr. Yna, bydd Llywodraeth Cymru’n craffu arnynt cyn gwneud unrhyw benderfyniad pellach.

 

Proses gyllidebu drawsbynciol – yr iaith Gymraeg, cydraddoldeb, datblygu cynaliadwy a hawliau plant

Caiff effaith polisïau a rhaglenni’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar blant, cydraddoldeb, datblygu cynaliadwy a’r Gymraeg ei hasesu’n rheolaidd fel rhan o’r broses o ddatblygu polisi. Cafodd y dull a ddefnyddir i gyflawni hyn ei gryfhau yn 2014 gyda sefydlu’r Cyd-Fwrdd Rhaglen Integreiddio Polisi a Sicrhau Deddfwriaeth i gynghori ar weithgarwch a’i fonitro. Yn ddiweddar, lansiwyd pecyn cymorth newydd ar gyfer  Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg a fydd yn sicrhau y gellir cynnwys y safonau arfaethedig newydd ar gyfer y Gymraeg a bod cyngor i Weinidogion yn dangos bod ystyriaeth wedi’i rhoi i’r Gymraeg. Mae’r asesiadau o effaith, a fydd yn cael eu cynnal ar adegau allweddol o’r cylch datblygu polisi, yn sicrhau bod ystyriaeth o ddyletswyddau statudol Gweinidogion Cymru yn y meysydd hyn yn llywio penderfyniadau terfynol ar bolisïau a chyllidebau. Er enghraifft, yn 2013-13 dyrannwyd cyllideb o £4.577 miliwn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i ddarparu Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS). Yn y cyfnod hwnnw, cafwyd 629 o atgyfeiriadau i IFSS, gyda chanran ohonynt yn cael eu hystyried yn anaddas ac yn cael eu hatgyfeirio i wasanaethau eraill lle bo’n briodol. Cafodd 359 teulu ryw fath o ddull ymyrraeth ddwys. Mae hyn yn golygu cost gyfartalog o tua £12,700 y teulu.

 

Mae’r ffigurau hyn yn dangos y byddai’r arbedion y byddai awdurdodau lleol yn eu sicrhau wrth i fwy o blant aros gyda’u teuluoedd yn gwneud iawn am gost ymyrraeth IFSS fel arfer. Mae hyn yn arbediad o ran costau unrhyw ofal a ddarperir yn ogystal â chostau ymgymryd ag achos llys cyhoeddus i roi plentyn neu berson ifanc mewn gofal. Gan fod IFSS yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion y teulu cyfan, mae ganddo’r potensial i arbed arian yn y tymor hir ar gyfer gwasanaethau triniaeth, iechyd a phrawf oedolion.

 

O safbwynt strategol ehangach, bydd y rhaglen eang i weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) o fis Ebrill 2106 ymlaen, yn destun Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant yn unol â’r dyletswyddau o dan y Mesur Hawliau Plant.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

ATODIAD A i Bapur y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Craffu ar y Gyllideb Ddrafft

 

Crynodeb o’r Newidiadau i ‘Linellau gweithredu cyllideb’ yn 2015-16 o gymharu â chynlluniau dangosol a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Derfynol ym mis Tachwedd 2013.

1. Cyflenwi Gwasanaethau Craidd y GIG

Cyflenwi Gwasanaethau Craidd y GIG yw’r Cam Gweithredu mwyaf o bell ffordd yn y Prif Grŵp Gwariant, gyda chyllideb refeniw flynyddol o £5 biliwn. Mae’r camau gweithredu yn darparu’r prif gyllid ar gyfer gofal y GIG (gwasanaethau ysbyty a chymunedol). Dyrennir y cyllid hwn i fyrddau iechyd lleol (BILlau) ac Ymddiriedolaethau’r GIG. Mae’n cynnwys cyllid ar gyfer gofal sylfaenol (meddygon teulu, deintyddion a fferyllwyr). Mae yna gynnydd net o £234.765 miliwn i’r cam gweithredu hwn yn sgil y trosglwyddiadau canlynol rhwng Camau Gweithredu:

 

·         £14.000 miliwn o Gam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau’r GIG wedi’u Targedu mewn perthynas â chyllid ar gyfer AMD gwlyb i ddyraniad refeniw Byrddau Iechyd

 

·         £2.487 miliwn o Gam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau’r GIG wedi’u Targedu i ddyraniad refeniw y Byrddau Iechyd mewn perthynas â chyllid ar gyfer costau triniaeth Retinopathi Diabetig   

 

·         £0.150 miliwn o Gam Gweithredu Noddi Cyrff Iechyd y Cyhoedd mewn perthynas â chyllid ar gyfer Cynghorwyr Deintyddol i’r Dyraniad Contract  Deintyddol

 

·         £5.019 miliwn o Gam Gweithredu Cymorth Hosbis mewn perthynas â chyllid Hosbisau i ddyraniad refeniw’r Byrddau Iechyd  

 

·         £0.046 miliwn o Gam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau’r GIG wedi’u targedu mewn perthynas â Gwasanaethau a Rennir

 

·         £0.180 miliwn o Gam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau’r GIG wedi’u targedu mewn perthynas â Gwasanaethau Cadair Olwyn i ddyraniad refeniw’r Byrddau Iechyd

 

·         £2.787 miliwn o Gam Gweithredu Diogelu Iechyd mewn ffordd sydd wedi’i Thargedu ac Imiwneiddio mewn perthynas â chostau imiwneiddio i Ddyraniad Byrddau Iechyd (£2.472 miliwn) a Chontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (0.315 miliwn)

 

·         £ (5.056) miliwn i Gam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau’r GIG wedi’u Targedu mewn perthynas â rhaglenni Gofal Llygaid

 

·         £(0.508) miliwn i Gam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau’r GIG wedi’u Targedu mewn perthynas â’r Cynllun Dewis Fferyllfa

 

·         £(0.150) miliwn i Gam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau’r GIG wedi’u Targedu mewn perthynas â chyllid ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Thalidomide

 

·         £ (0.151) miliwn i Gam Gweithredu Noddi Cyrff Iechyd y Cyhoedd mewn perthynas â chostau Lymffoedema i Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

·         £(9.000) miliwn i Gam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau’r GIG wedi’u Targedu mewn perthynas â chyllid ychwanegol ar gyfer Cronfa Risg Cymru

 

·         £(0.024) miliwn i Gam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau’r GIG wedi’u Targedu mewn perthynas â rhent ar gyfer Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol

 

·         £(0.015) miliwn i Gam Gweithredu Cyngor Gofal Cymru mewn perthynas â chyllid ychwanegol nad yw’n arian parod

 

·         £225.000 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn unol â blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi’r GIG yng Nghymru

 

2. Cyflenwi Gwasanaethau’r GIG wedi’u Targedu

Mae’r Cam Gweithredu hwn yn cynnwys cyllid ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol penodol (yn cynnwys Mentrau Gofal Llygaid), yn ogystal â chyllid ar gyfer amryw o ddatblygiadau eraill yn cynnwys: darparu gwybodaeth a thechnoleg (IM&T), datrysiadau i’r GIG yng Nghymru a chefnogi Addysg Feddygol i israddedigion. Mae’r cynnydd net i’r Cam Gweithredu hwn yn £(6.435) miliwn yn 2015-16. Mae hyn yn cynnwys:

 

Trosglwyddiadau rhwng Camau Gweithredu:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Trosglwyddiadau rhwng Prif Grwpiau Gwariant

 

 

 

3. Cefnogi Addysg a Hyfforddiant Gweithlu’r GIG

Mae’r Cam Gweithredu hwn yn cefnogi rhaglenni addysg a hyfforddiant mewn swydd er mwyn datblygu gweithlu’r GIG. Nid oes unrhyw newid i’r Cam Gweithredu hwn.

 

4. Cefnogi Polisïau a Deddfwriaeth Iechyd Meddwl

Mae’r cyllid craidd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn cael ei ddarparu drwy Gam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau Craidd y GIG. Yn ogystal â hyn, mae’r Cam Gweithredu hwn yn darparu cyllid pwrpasol ar gyfer datblygu a gwella gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a’r glasoed, oedolion a phobl hŷn yng Nghymru yn unol â’r Strategaeth Iechyd Meddwl, y Fframwaith Gwasanaethau Cenedlaethol a deddfwriaeth. Mae’n darparu cymorth ar gyfer, er enghraifft, gwasanaethau dementia, gwasanaethau anhwylderau bwyta a’r Gwasanaeth Cyn-filwyr ledled Cymru. Nid oes unrhyw newid i’r Cam Gweithredu hwn.

 

5. Cymorth Hosbis

Mae’r Cam Gweithredu hwn yn darparu cyllid ar gyfer mentrau gofal lliniarol i Gymru gyfan, yn ogystal â chyllid rheolaidd i hosbisau gwirfoddol. Mae’r gostyngiad net i’r Cam Gweithredu hwn yn £ (5.019) miliwn yn 2015-16 yn sgil trosglwyddo cyllid i ddyraniad refeniw y Byrddau Iechyd.

 

 

 

6. Cyflenwi Cynllun Cyflawni’r Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau

Mae’r Cam Gweithredu hwn yn darparu’r cyllid ar gyfer cyflawni’r Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau a rhaglenni cysylltiedig i atal camddefnydd o sylweddau a chynorthwyo camddefnyddwyr sylweddau, eu cynhalwyr a’u teuluoedd. Mae’r gostyngiad neti’r Cam Gweithredu hwn yn £ (0.500) miliwn yn 2015-16 yn sgil ail-flaenoriaethu cyllid.

 

7. Noddi Cyrff Iechyd y Cyhoedd

Mae’r Cam Gweithredu hwn yn darparu cyllid i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n cyflenwi gwasanaethau iechyd y cyhoedd megis gwella a diogelu iechyd, gwybodaeth am iechyd y cyhoedd ac ymchwil i’r maes, a rhaglenni sgrinio cenedlaethol ar gyfer pobl Cymru. Mae’r cynnydd i’r Cam Gweithredu hwn yn £4.430 miliwn yn 2015-16 gan ei fod yn cynnwys y canlynol: 

 

Trosglwyddiadau rhwng Camau Gweithredu

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

8. Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Defnyddir hwn i ariannu Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, adran annibynnol o’r Llywodraeth a sefydlwyd i ddiogelu’r cyhoedd o ran eu buddiannau iechyd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Ceir cynnydd o £0.490 miliwn i’r Cam Gweithredu hwn yn sgil trosglwyddiad o Brif Grŵp Gwariant Llywodraeth Leol a Chymunedau mewn perthynas â chyllid Diogelwch Porthiant yn trosglwyddo o setliad y Grant Cynnal Refeniw.  

 

9. Diogelu Iechyd mewn ffordd sydd wedi’i Thargedu ac Imiwneiddio

Mae hwn yn darparu cyllid ar gyfer brechlynnau i’r rhaglen frechu yn erbyn clefydau ataliadwy. Mae hefyd yn cyllido amrywiaeth o ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd yn ogystal â mentrau i fynd i’r afael â heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd. Mae gostyngiad o £ (2.935) miliwn i’r Cam Gweithredu hwn sy’n cynnwys y canlynol:

 

 

 

 

10. Hyrwyddo Gwella Iechyd a Gweithio Iach

Mae hwn yn cefnogi mentrau a chamau gweithredu sy’n cael eu datblygu i gefnogi Ein Dyfodol Iach, gan gynnwys y strategaeth rheoli tybaco a’r ddarpariaeth nyrsys mewn ysgolion uwchradd. Nid oes unrhyw newid i’r Cam Gweithredu hwn.

 

 

11. Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Iechyd a Datblygu Gwaith Partneriaeth

Mae hwn yn cefnogi’r Gronfa Anghydraddoldebau Iechyd a’r rhaglen Cychwyn Iach. Nid oes unrhyw newid i’r Cam Gweithredu hwn.

 

12. Trefniadau Parodrwydd am Argyfyngau Iechyd Effeithiol

Nod y cyllid hwn yw sefydlu a chynnal stociau strategol o frechlynnau cyn-bandemig, cyffuriau gwrthfeirysol, gwrthfiotigau, masgiau wyneb, anadlyddion a defnyddiau traul. Darperir cyllid hefyd ar gyfer datblygu a chynnal stociau gwrthfesurau iechyd eraill i ymateb i achosion o ryddhau sylweddau cemegol, biolegol, radiolegol, niwclear a ffrwydrol, boed yn ddamweiniol neu’n fwriadol.

 

Mae’r gyllideb hon yn ariannu'r Tîm Ymateb ar gyfer Ardaloedd Peryglus hefyd, a fydd yn galluogi'r gwasanaeth ambiwlans i ddarparu triniaethau mewn amgylcheddau halogedig neu fannau anodd eu cyrraedd. Nid oes unrhyw newid i’r Cam Gweithredu hwn.

 

13. Datblygu a Gweithredu Ymchwil a Datblygu er Lles Cleifion a’r Cyhoedd

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn cyllido gwaith y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, sy'n ceisio helpu i greu tystiolaeth o ansawdd uchel i lywio polisi ac a fydd o les i gleifion a'r cyhoedd. Nid oes unrhyw newid i’r Cam Gweithredu hwn.

 

 

 

14. Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Plant

Mae hwn yn cyllido amrywiaeth o raglenni a datblygiadau polisi i gefnogi plant sy’n agored i niwed, yn cynnwys Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd a gwaith ar ddiogelu ac amddiffyn. Mae yna ostyngiad o £ (4.729) miliwn i’r Cam Gweithredu hwn yn sgil y trosglwyddiadau canlynol:

 

 

Trosglwyddiadau rhwng Prif Grwpiau Gwariant

 

 

15. Oedolion a Phobl Hŷn

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn darparu cyllid ar gyfer gweithredu'r Strategaeth Pobl Hŷn a gweithredu'r strategaethau Anabledd Dysgu, gan gynnwys y rhaglen adsefydlu pobl yn dilyn cyfnod hir yn yr ysbyty. Mae hefyd yn cyllido ymrwymiadau yn y Cynllun Gweithredu Strategol i Ofalwyr a'r Mesur Gofalwyr. Mae yna ostyngiad o £ (0.880) miliwn i’r Cam Gweithredu hwn yn sgil y trosglwyddiad canlynol:

 

Trosglwyddiadau rhwng Prif Grwpiau Gwariant

 

 

16. Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae’r Cam Gweithredu hwn yn cefnogi gweithredu’r Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Cymru. Yma bydd y cyllid yn bwysig wrth ddatblygu modelau gofal newydd a chefnogi'r gwaith o weddnewid gwasanaethau. Mae'r Cam Gweithredu hwn hefyd yn cynnwys cyllid cynllun grant ar gyfer awdurdodau lleol ar gyfer rhaglen datblygu’r gweithlu i’r sector cyfan a chefnogaeth ar gyfer Cymdeithas

Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru), yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGC) a'r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE).  Nid oes unrhyw newid i’r Cam Gweithredu hwn.

 

17. Cyngor Gofal Cymru

Cyngor Gofal Cymru yw rheoleiddiwr y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru,

sy'n gyfrifol am hyrwyddo a diogelu safonau uchel ar draws y gwasanaethau cymdeithasol a'r gweithlu gofal cymdeithasol.  Mae yna gynnydd o £0.015 miliwn i’r Cam Gweithredu hwn mewn perthynas â chyllid nad yw’n arian parod.

 

18. Comisiynydd Pobl Hŷn

Mae hwn yn darparu cyllid ar gyfer y Comisiynydd Pobl Hŷn. Swydd annibynnol yw hon

- y gyntaf o'i math yn y byd - a sefydlwyd i sicrhau bod buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, sy'n 60 oed neu'n hŷn, yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo. Nid oes unrhyw newid i’r Cam Gweithredu hwn.

 

 

 

19. Rhaglenni CAFCASS Cymru

Sefydliad gwaith cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar blant yw CAFCASS CYMRU, sy'n rhoi cyngor arbenigol i lysoedd achosion teuluol, Llysoedd Sir a'r Uchel Lys. Yma mae'r cyllid yn cefnogi dyletswyddau craidd y sefydliad, yn ogystal â rhwymedigaethau o dan Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006, gan gynnwys y ddarpariaeth o ganolfannau cyswllt a gweithgareddau cyswllt. Nid oes unrhyw newid i’r Cam Gweithredu hwn.   

 

20. Cyfalaf

Mae Rhaglen Gyfalaf y GIG yn cefnogi darpariaeth Gofal Iechyd yr 21ain Ganrif drwy wella canlyniadau iechyd drwy sicrhau bod ansawdd a diogelwch gwasanaethau’n gwella; gwella mynediad a phrofiad cleifion; ac atal iechyd gwael a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae enghreifftiau’n cynnwys cyllid ar gyfer cerbydau ambiwlans a chanolfannau adnoddau gofal sylfaenol, yn ogystal ag ysbytai cymunedol a chanolfannau lles newydd. Nid oes unrhyw newid i’r Cyllid cyfalaf.